P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Black, ar ôl casglu cyfanswm o 5,790 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

​​ Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisïau ar ryddhad ardrethi annomestig sy’n wahanol i Loegr ar gyfer y sector manwerthu, ac eithrio yn achos y gyfran fach o eiddo sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000. Gyda siopau Debenhams eisoes mewn trafferthion ariannol mae hyn yn bygwth hyfywedd eu holl siopau yng Nghymru a dyfodol hyd at 900 o staff. Os bydd y siopau hyn yn cau, bydd yn cael effaith drychinebus ar ganolfannau siopa lle maent wedi'u lleoli, gan leihau nifer y bobl sy’n ymweld â siopau eraill.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/debenhams-coronavirus-wales-stores-closed-18147574

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Abertawe

·         Gorllewin De Cymru